Cyhoeddedig: 29th IONAWR 2025

Ysgolion Gogledd a Gorllewin Cymru’n cael eu cydnabod am eu hymdrechion i hybu teithiau llesol

Cydnabyddir ysgolion yng Ngogledd a Gorllewin Cymru am eu hymdrechion i annog a chefnogi mwy o deithiau llesol i’r ysgol. Cafodd saith ysgol gwahanol wobrau Gwobrau Ysgolion Teithiau Llesol gan Sustrans, gan adlewyrchu eu hymrwymiad tuag at arferion teithio iachach.

Pupils and staff from Ysgol yr Hafod stand looking at the camera with their Active Travel School Award outside the school entrance.

Disgyblion a staff Ysgol yr Hafod yn dathlu eu Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur. Llun gan: The Wrexham Leader.

Mae ysgolion o Ogledd a Gorllewin Cymru wedi bod ar frig y gad efo'u hymrwymiad tuag at hyrwyddo ffyrdd mwy egnïol o deithio i'r ysgol.

Mae'r ysgolion o Geredigion, Sir y Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro a Wrecsam i gyd yn rhan o'r rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r rhaglen Teithiau Iach, mae ysgolion yn cymryd rhan yn Wobrwyon Ysgolion Teithio Llesol ac yn cael eu cydnabod am gefnogi eu disgyblion a'u staff wrth iddynt wneud penderfyniadau iachach a mwy cynaliadwy pan eu bod nhw'n teithio.

 

Ymrwymiad at ffordd iachach o deithio

Mae'r rhestr o ysgolion sydd wedi cael eu gwobrwyo trwy'r Gwobrwyon Ysgolion Teithio Llesol yn cynnwys:

  • Ysgol Glancegin, Bangor (Efydd)
  • Ysgol Glannau Gwaun, Abergwaun (Arian)
  • Ysgol Emmanuel, Y Rhyl (Arian)
  • Ysgol yr Hafod, Wrecsam (Arian)
  • Ysgol Bryn Deva, Cei Connah (Aur)
  • Ysgol Llywelyn, Y Rhyl (Aur)
  • Ysgol Plascrug, Aberystwyth (Aur)
Pupils sit on a playground watching a BMX show.

Disgyblion Ysgol Llywelyn yn y Rhyl yn mwynhau sioe gan Fusion Extreme fel gwobr ar gyfer eu hymdrechion. Llun gan: Sustrans.

Mae staff, disgyblion, athrawon, rhieni a gwarchodwyr i gyd yn cyfrannu at gynyddu teithio llesol yn yr ysgol, felly mae'r gwobrwyon yma'n adlewyrchu ymdrechion holl gymuned yr ysgol.

Bwriad y Wobr Ysgol Teithio Llesol yw cynghori ysgolion trwy'r camau allweddol o gynyddu a chynnal y nifer o ddisgyblion sy'n teithio'n llesol i'r ysgol.

Mae Ysgolion Teithio Llesol yn deall y manteision o deithio'n llesol er lles eu disgyblion, eu teuluoedd, a chymuned ehangach yr ysgol.

Mae rhai o fanteision lefelau uwch o deithio'n llesol yn cynnwys:

  • Llai o dagfeydd
  • Ansawdd aer gwell
  • Mwy o blant annibynnol a gwydn
  • Strydoedd sy'n fwy diogel
  • Lefelau uwch o ymarfer corff
  • Lefelau uwch o ganolbwyntio yn y dosbarth

Ysgolion yn gosod yr esiampl am deithio cynaliadwy

Nid oes modd gorbwysleisio cyflawniadau pob un o'r ysgolion yma, yng nghyd-destun arwain y ffordd at ffyrdd iachach o deithio ar gyfer eu disgyblion ac effaith cadarnhaol eu gwaith ar y gymuned leol.

"Mae'n anhygoel gweld yr ysgolion yma'n gwneud y gwaith caled er mwyn ei wneud yn haws i ddisgyblion a staff i gerdded, olwyno a beicio'n fwy aml," meddai Siani Colley-Nester, Rheolwr Prosiect y rhaglen Teithiau Iach.

"Mae rhai o'r pethau mae'r ysgolion yma'n eu gwneud - weithiau ar liwt eu hun - yn wir yn dangos pa mor bwysig ydyw iddynt i ddatblygu ein plant a phobl ifanc mewn i unigolion iachus, hyderus a gwydn."

Yn ogystal, mae'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan rhai o'r ysgolion wedi arwain at ryngweithio cydweithredol ymhlith ysgolion eraill yn eu hardaloedd nhw, gan rannu'r hyn sydd wedi gweithio'n dda efo ysgolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf gan Sustrans