Roedd E-Symud yn gynllun benthyciadau beiciau trydan ar gyfer pobl sy'n byw yn Aberystwyth, Y Rhyl, Y Barri, Abertawe, Y Drenewydd a'r ardaloedd cyfagos. Roedd y cynllun peilot yn helpu pobl a allai fod yn gweld cost e-feiciau yn rhwystr rhag eu defnyddio. Roedd E-Symud yn cynnig ffordd iach, gynaliadwy a fforddiadwy o deithio.
Nod y prosiect E-Symud oedd helpu trigolion mewn sawl ardal yng Nghymru i ddechrau teithio'n llesol ac yn gynaliadwy. ©photojB
Cafodd y prosiect hwn yn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y cynllun peilot hwn yn cynnig benthyciad o bedair wythnos i unigolion o e-feic.
Roedd ar gyfer pobl sy'n byw yn Aberystwyth, Abertawe, Y Barri, Y Rhyl, Y Drenewydd ac ardaloedd cyfagos y dinasoedd a'r trefi hyn.
Roedd y cynllun benthyciadau yn rhad ac am ddim, a roedd 20 o e-feiciau ar gael ym mhob lleoliad.
Roedd beiciau cargo trydanol hefyd ar gael i fusnesau a sefydliadau yn Aberystwyth, Abertawe a'r Drenewydd am hyd at dri mis.
Amnewid teithiau mewn car a fan
Nod E-Symud oedd lleihau allyriadau carbon drwy ddisodli rhai o'r teithiau a wneir fel arfer mewn car.
Roedd e-feiciau cargo ar gael i fusnesau a sefydliadau, er mwyn helpu i leihau'r allyriadau a achosir trwy ddanfon nwyddau i'ch drws.
Drwy gynnig dulliau teithio amgen, nod y prosiect hwn oedd gwella ansawdd aer lleol.
Cadw cymhelliant i symud
Gall beiciau trydanol gyrraedd cyflymder o hyd at 15.5 mya.
Gallant eich helpu i fynd i'r afael â thir bryniog, cario llwythi, a mynd am deithiau beicio hirach.
Roedd casgliad E-Symud o e-feiciau yn cynnwys panniers, hambyrddau stowage a seddi i gario plant o wahanol oedrannau.
Maent yn helpu i wneud teithio llesol yn hwyl, gan ein helpu i aros yn llawn cymhelliant i symud.
Helpu busnesau a sefydliadau gyda beiciau e-cargo
Gall defnyddio e-feiciau i symud nwyddau o gwmpas leihau costau gweithredu i sefydliadau.
Mae'r dull hwn yn creu cyfle am gyhoeddusrwydd cadarnhaol a gall fod yn ffordd wych o ymgysylltu â chwsmeriaid o'r gymuned gyfagos.
Mewn ardaloedd prysur, mae e-feiciau cargo yn aml yn ffordd gyflymach o symud llwythi.
Maent yn fwy hyblyg, cyfleus ac ecogyfeillgar na defnyddio fan.
Mae beiciau e-cargo yn ddewis arall gwych i faniau ar gyfer symud nwyddau o fewn trefi a dinasoedd.
Ysbrydoli busnesau a sefydliadau i weithredu
Drwy'r prosiect E-Symud, roeddem yn cefnogi busnesau a sefydliadau i dreialu'r defnydd o feiciau e-gargo.
Roeddem am weld sefydliadau'n manteisio ar y cyfle hwn i leihau allyriadau carbon a llygredd aer lleol.
Roeddem yn eu helpu i ddatblygu'r sgiliau i ddefnyddio beiciau e-gargo, ac i ddysgu am fanteision ac effeithiau defnyddio beiciau amrywiol ar gyfer eu gwasanaethau.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn benthyg e-feic?
Gwahoddom pobl yn Aberystwyth, Y Rhyl, Y Barri, Abertawe, Y Drenewydd a'r ardaloedd cyfagos i fenthyg e-feic.
Roedd busnesau a sefydliadau yn Abertawe ac Aberystwyth a'r cyffiniau yn gymwys i gael benthyg beic e-gargo.
Roedd angen i chi gwblhau arolwg cyn ac ar ôl y benthyciad.
Efallai y gofynnom i chi hefyd wneud cyfweliad ymchwil 30-45 munud.
Gwnaeth hyn yn ein helpu i ddeall profiad pobl o ddefnyddio e-feic.
Roedd yr arolwg yn edrych ar heriau defnyddio un, a sut y gall pobl, sefydliadau a lleoedd elwa o e-feiciau.
Bydd canlyniad y prosiect hwn yn ein helpu i ddatblygu argymhellion ar gyfer mentrau e-feic yn y dyfodol.
Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i fenthyca
I fod yn gymwys roedd angen i chi bod dros 18 oed ac yn gallu beicio'n ddiogel, yn breswylydd mewn ardal yn y Rhyl, Abertawe, y Drenewydd, neu'r Barri, a naill ai:
- yn byw mewn ardal a restrir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (mewn lleoliad prosiect) fel un o'r 10-50% o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gallwch wirio eich cod post ar eu gwefan;
- byw mewn lle gwledig ger lleoliad E-Symudiad y gellir ei gyrraedd drwy e-feic gyda'r bwriad o ddisodli teithiau car, neu;
- byw mewn lleoliad bryniog ger lleoliad E-Symudiad y gellir ei gyrraedd drwy e-feic gyda'r bwriad o ddisodli teithiau car.
Gwahoddom busnesau a sefydliadau sy'n gweithredu yn Abertawe neu Aberystwyth i wneud cais i fenthyg beic e-gargo trwy gysylltu â'r swyddog perthnasol.
Os oeddech chi'n meddwl efallai na fyddwch chi'n gallu beicio, neu os nad oeddech chi wedi marchogaeth mewn blynyddoedd lawer, yna roeddem ni'n eich annog i gael hyfforddiant cyn i'r benthyciad ddechrau trwy ddarparwr lleol achrededig.
Cysylltu
Nodwch, os gwelwch yn dda, daeth y prosiect peilot yma i ben ym mis Mawrth 2024. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu prosiect tebyg i E-Symud neu os hoffech wybod mwy am effaith y prosiect, gofynnir i chi cysylltu â ni ar e-bost gan negeseuo sustranscymru@sustrans.org.uk.
Y broses ymgeisio
Gwnaeth ein swyddogion prosiect yn rhoi ffurflen gais i chi a byddant wedi gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Gwnaethoch dderbyn gwybodaeth am y cynllun a pha e-feiciau sydd gennym ar gael.
Gwnaethoch hefyd derbyn cytundeb arolwg a benthyciad i'w gwblhau.
Trefnom dyddiad i chi gasglu e-feic a derbyn sesiwn sefydlu lle dangosom i chi sut i'w ddefnyddio a bod yn gyfforddus yn ei ddefnyddio.
Yn dibynnu ar y galw am yr e-feiciau, efallai y cawsoch eich cadw ar restr aros nes bod un ar gael.
Cysylltwch ag un o'n tîm nawr os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am effaith y prosiect E-Symud gwreiddiol.
Darganfyddwch pam y dylech roi cynnig ar e-feic.
Darllenwch ein hadroddiad ar flwyddyn gyntaf ein cynllun E-Symud.