Cyhoeddedig: 17th TACHWEDD 2020

Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Mae staff, disgyblion, athrawon a rhieni i gyd yn cyfrannu at gynyddu teithio llesol mewn ysgolion, p'un a yw hynny'n cerdded, beicio neu sgipio. Rydyn ni'n gwybod nad yw hi bob amser yn hawdd, felly fel rhan o'n Rhaglen Teithiau Iach, rydyn ni'n darparu achrediad fel y gallwch chi ddathlu'ch gwaith caled.

Gwobr Ysgol Teithio Llesol

Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn tywys ysgolion trwy'r camau allweddol ar gyfer cynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio’n actif i'r ysgol. Cofrestrwch a mewngofnodwch i'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yma. 

Mae'n galluogi ysgolion i recordio cynnydd trwy dair lefel - efydd, arian ac aur - wrth ddod yn fannau arfer gorau.

Mae'r wobr yn cefnogi ysgolion i gasglu tystiolaeth tuag at adrannau trafnidiaeth, iechyd a lles Gwobrau Ysgolion Eco ac Ysgolion Iach.
  

Beth yw Ysgol Teithio Llesol?

Mae gan Ysgolion Teithio Llesol yr uchelgais a'r weledigaeth i weld fwy o deithio llesol i'w hysgol ac yn ôl.

Maent yn cydnabod y buddion a ddaw yn sgil lefelau uwch o deithio llesol i'r disgyblion, eu teuluoedd a chymuned ehangach yr ysgol: 

  • llai o dagfeydd traffig 
  • gwell ansawdd aer 
  • plant mwy annibynnol a gwydn (sain siwr am y gair yma ar gyfer resilient?) 
  • strydoedd mwy diogel 
  • lefelau uwch o weithgaredd corfforol 
  • plant mwy effro yn barod i ddysgu a chyflawni. 

Gan gymryd camau positif i annog a chefnogi disgyblion a'u teuluoedd i deithio'n weithredol, mae Ysgolion Teithio Llesol yn ysbrydoliaeth yn y gymuned, gan ddangos sut y gall teithiau trwy’r gymdogaeth bob dydd fod yn egnïol ac yn iach. 

Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn tywys ysgolion trwy'r camau allweddol ar gyfer cynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio’n actif i'r ysgol.

Llwyfan ar-lein

Bydd platfform Gwobr Ysgol Teithio Gweithredol yn eich tywys trwy'r camau allweddol sy'n ofynnol i gynyddu a chynnal nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol yn weithredol.

Gall ysgolion olrhain cynnydd a chael gafael ar gyfoeth o adnoddau ategol er mwyn ennill gwobrau efydd, arian ac aur.
  

Efydd

 i ysgol sydd wedi gweithio i gyflwyno rhai newidiadau trefniadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy’n helpu cymuned yr ysgol i deithio mewn ffyrdd sy’n fwy llesol a chynaliadwy.
  

Arian

I ysgol sy’n parhau i ddangos ei hymrwymiad i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy, ond gyda llawer o’r egni a’r adnoddau’n dod o oddi mewn i’r ysgol a’i chymuned.
  

Aur

I ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad parhaus i hybu teithio llesol a chynaliadwy dros sawl blwyddyn sydd wedi arwain at newidiadau trefniadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a hirhoedlog.

  

Disodli y Nod Ysgol

Mae'r Wobr Ysgol Teithio Llesol yn disodli'r Nod Ysgol.

Bydd yr holl gynnydd yn cael ei drosglwyddo i blatfform Gwobr Ysgol Teithio Llesol.

Mewngofnodwch i'r platfform Gwobr Ysgol Teithio Llesol newydd sbon yma.

E-bostiwch ni i gofrestru'ch ysgol ar gyfer y Wobr Ysgol Teithio Llesol.

Bydd angen i ni wybod eich enw, teitl swydd, ysgol, cyfeiriad e-bost cyswllt, ac awdurdod lleol schoolswales@sustrans.org.uk.

Rhannwch y dudalen hon

Edrychwch ar rai o'n prosiectau eraill yng Nghymru