Mae Rhaglen Dylunio Stryd Sustrans Scotland yn wasanaeth dylunio ac ymgysylltu arobryn, sy'n grymuso cymunedau i drawsnewid eu cymdogaethau a'u mannau trefol. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth yr Alban drwy Transport Scotland.
Trigolion yn dathlu agor prosiect Dylunio Stryd Cymdogaeth Dumfries. Credyd: Comisiwn Tir yr Alban
Yr hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn helpu i feithrin cymunedau cryfach.
Rydym yn creu lleoedd o ansawdd gwell sy'n fwy diogel ac yn fwy deniadol i dreulio amser ynddynt a theithio trwyddynt.
Rydym yn cefnogi'r angen am newid mewn cymunedau lleol.
Gweithio gyda'n tîm Dylunio Stryd
Rydym yn gwybod bod lleoedd sydd wedi'u cynllunio o amgylch pobl yn dda ar gyfer cerdded, beicio a hefyd ar gyfer ein hiechyd corfforol a chymdeithasol.
Mewn un flwyddyn, bydd ein tîm Dylunio Stryd yn gweithio mewn partneriaeth â chi i gyflawni pedair elfen allweddol:
1. Dylunio cysyniad
2. Cymuned sy'n ymgysylltu'n llawn
3. Argymhellion ar fesurau newid ymddygiad
4. Fframwaith ar gyfer monitro a gwerthuso'r prosiect
Sut allwch chi ymgeisio?
Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau i'n rhaglen Dylunio Stryd.
Cofrestrwch i'n cylchlythyr os hoffech dderbyn hysbysiadau pan fydd y rhaglen yn ailagor.
Cysylltwch â'r Tîm Dylunio Stryd
Gallwch e-bostio'r tîm yn: streetdesign@sustrans.org.uk
Fel arall, ffoniwch 0131 317 4189.