Cyhoeddedig: 10th MAWRTH 2025

Y llawlyfr E-Symud: Sut mae sefydlu a rhedeg cynllun e-feicio cymunedol

Cafodd y prosiect E-Symud ei gychwyn gan Sustrans Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddarparu mynediad di-dâl at e-feiciau ac e-feiciau cargo ar gyfer unigolion yng nghymunedau o amddifadedd ar led Cymru. Nawr, mae Sustrans wedi creu llawlyfr sy’n cynnig arweiniad i awdurdodau lleol neu grwpiau cymunedol sy’n awyddus i greu cynllun benthyg e-feiciau fforddiadwy a chynhwysol eu hun.

Mae Sustrans wedi creu llawlyfr sy'n esbonio sut mae sefydlu cynllun benthyca e-feiciau cymunedol efo'r hyn maent wedi dysgu o'i brosiect peilot E-Symud a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Llun gan: Tom Lee\Llywodraeth Cymru.

Roedd E-Symud yn brosiect wedi' seilio ar y gymuned a oedd yn galluogi pobl oedd yn byw yn pum man yng Nghymru i fenthyg e-feiciau ac e-feiciau cargo am ddim, wedi' ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cynigiodd y prosiect y cyfle i bobl, busnesau a mudiadau benthyg e-feic neu e-feic cargo fel modd i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, mannau gwyrdd, a chyfleoedd cymdeithasol eraill.

Ei nod oedd cynnig modd iachus, cynaliadwy o drafnidiaeth i'r rheini efo symudedd cyfyngedig o ganlyniad i drafnidiaeth gyhoeddus wael, diffyg mynediad at gerbydau preifat, oedran, neu gyflyrau iechyd.

Yn ystod y tair blynedd i'r prosiect rhedeg yn Abertawe, Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd, a'r Rhyl, cafwyd nifer o ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys:

  • Mewn wythnos arferol, cafodd 65% yn llai o deithiau ei wneud gan yrrwr car a 39% yn llai fel teithiwr.
  • Cafodd sawl mantais gyson ei adrodd yn ôl gan gynnwys arbed amser, cynyddu hyder, a galluogi teithiau newydd.
  • Adroddodd buddiolwyr hefyd cafodd eu gallu i gael mynediad at gyfleoedd gwaith, mannau gwyrdd ac ardaloedd newydd ei wella.
  • Adroddodd pobl yn gyson gwell iechyd a lles corfforol a meddyliol.

Trwy'r hyn a ddysgom gan ddarparu'r prosiect E-Symud, mae Sustrans nawr wedi creu llawlyfr i helpu awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i greu eu cynlluniau benthyca e-feiciau ei hunain.

Gall e-feiciau ac e-feiciau cargo helpu i arbed arian, gwella iechyd corfforol a meddyliol, a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Llun gan: photojB\Sustrans.

Pam sefydlu cynllun benthyca e-feiciau yn eich cymuned chi?

Prif amcan cynllun benthyca e-feiciau yw cynnig mynediad at e-feiciau ac e-feiciau cargo i unigolion a mudiadau sydd methu, fel arall, cael y cyfle.

Rhai o'r prif fanteision o'r modd cynaliadwy yma o drafnidiaeth yw:

  • Hygyrchedd: Mae e-feiciau'n wneud beicio'n hygyrch i amrediad eang o unigolion. Dangosodd y prosiect E-Symud, er enghraifft, fod cymorth pedlo wedi rhoi hwb i hyder menywod, gan roi iddynt ymdeimlad o ddiogelwch a rheolaeth dros eu teithiau.
  • Hwylustod: Gyda chymorth trydanol, mae cymudo - yn enwedig dros dir bryniog neu bellteroedd hir - yn dod yn llawer haws.
  • Arbed costau: Gall e-feiciau arbed arian ar danwydd, parcio a chynnal a chadw, o gymharu â bod yn berchen ar gar.
  • Manteision iechyd: Er nad yw defnyddio e-feic mor gorfforol heriol a beicio safonol, mae e-feicio yn dal i gynnig manteision cardiofasgwlaidd, gan wella cryfder y cyhyrau a chapasti'r ysgyfaint.
  • Effaith amgylcheddol: Nid yw e-feiciau'n cynhyrchu allyriadau, felly maent yn ddewis amgen gwyrdd sy'n help i leihau llygredd aer a gwella'r amgylchedd lleol ar gyfer pobl a natur.

Fel dangosodd y prosiect E-Symud, gall e-feiciau cynnig modd o drafnidiaeth sy'n hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy a all arwain at fanteision iechyd yn ogystal ag ariannol.

Er bod yr arbedion cost ar y dechrau yn bwysicach na'r effaith amgylcheddol, rydych chi wir yn teimlo ymdeimlad o wneud daioni yn y byd pan fyddwch chi'n beicio.
Ceri, Y Barri

Elwodd busnesau a mudiadau cymunedol gan fenthyg e-feic cargo am ddim hefyd, efo 50% mwy o deithiau'n cael ei wneud yn ystod wythnos arferol gan deithio'n llesol.

Nododd yr adborth gan fudiadau a busnesau'r agweddau cadarnhaol canlynol:

  • Gwell canfyddiad cyhoeddus a hysbysrwydd cadarnhaol trwy ddefnydd yr e-feiciau cargo.
  • Costau teithio gostyngedig efo arian wedi' harbed ar danwydd, ac amseroedd teithiau cyflymach dros bellterau byrrach
  • Lles staff yn gwella, mwy o ymarfer corff ac iechyd meddyliol gwell - yn syml, maent yn fodd hwylus o deithio.
  • Teimlad gwell o gynhwysiant o ganlyniad i bobl heb drwyddedau gyrru'n gallu gwneud teithiau a chyfrannu ble nad oeddent wedi gallu gwneud fel arall.
Yr hyn sy'n wych am gael busnes sy'n seiliedig ar feic yw, oherwydd ei fod mor symudol, gallaf fynd ag ef i lefydd lle mae pobl fel arfer yn ymgynnull ond nid oes lle casglu ar gael.

Sicrhau effaith cadarnhaol ar gyfer pawb trwy gynlluniau benthyca e-feiciau cymunedol

Dylai cyllidebu sy'n ymateb i rywedd chwarae rôl hanfodol wrth sefydlu cynllun benthyca e-feiciau cymunedol newydd.

Ar gyfer y prosiect E-Symud, roedd cyllidebu ar sail rhyw yn golygu archwilio sut gellid dyrannu adnoddau i wneud e-feiciau'n hygyrch i'r rheini a fyddai fel arall yn wynebu rhwystrau ar sail rhywedd.

Gall cyllideb sy'n ymateb i rywedd cael ei addasu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau tu hwnt i rywedd, megis hil, anabledd, oedran, a statws economaidd-gymdeithasol.

Yn draddodiadol, gall anghenion symudedd menywod fod yn wahanol, er enghraifft byddant yn tueddu i wneud nifer o deithiau byr ar gyfer dyletswyddau sy'n ymwneud â gwaith, y teulu neu ofalu, ac maent yn tueddu i wynebu mwy o ansicrwydd o ran trafnidiaeth.

Drwy ddefnyddio dull cyllidebu ar sail rhyw, fe wnaeth y prosiect E-Symud ystyried y ffactorau hyn, gan ddyrannu adnoddau i gael modelau e-feiciau amrywiol, sydd weithiau'n ysgafnach, a darparu mesurau cefnogol fel seddi plant a hyfforddiant cymunedol.

Un peth pwysig arall a ddaeth i'r amlwg oedd bod diogelwch gwirioneddol ac ymddangosiadol mewn mannau cyhoeddus yn dylanwadu ar sut mae menywod yn cael eu gweld o safbwynt beicio.

Yn sgil hyn, darparodd E-Symud adnoddau i gynnig systemau cyfeillio ac arwain teithiau gan roi hwb i ddiogelwch a hyder, yn enwedig i fenywod a oedd yn teimlo'n fregus wrth feicio ar eu pen ei hunain.

Bydd cyllidebu ar sail rhywedd yn helpu unrhyw gynllun newydd i sicrhau bod pawb yn eich cymuned yn elwa'n llawn. Llun gan: photojB\Sustrans.

Rhannwch y dudalen hon