Cyhoeddedig: 20th TACHWEDD 2024

Gweithwyr gofal cartref y Fro yn canfod eu bod nhw’n gallu teithio’n haws ac yn gyflymach ar e-feiciau

Mae Sustrans wedi bod yn gweithio â Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu Teithio â Gofal, prosiect peilot sy’n galluogi gweithwyr gofal cartref i fenthyg e-feic a’r holl offer sydd angen arnynt. Yn y blog yma, clywn am sut mae’r prosiect yn effeithio’r bobl sy’n ei ddefnyddio.

A woman sits on Barry Island promenade looking away from the camera toward the sea. Beside her is a parked e-bike.

Gall pobl sy'n gweithio mewn gofal cartref ym Mro Morgannwg benthyg e-feic am ddim tra bod y prosiect peilot Teithio a Gofal yn rhedeg. Llun gan: Tom Lee.

Cafodd Teithio â Gofal, prosiect peilot gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â Sustrans Cymru, ei lansio yn mis Hydref 2023.

Mae'n galluogi gweithwyr gofal cartref ym Mro Morgannwg i fenthyg e-feic, helmed 

clo, bagiau ar gyfer y beic, dillad gwrth-ddŵr – popeth bydd angen arnynt i’w ddefnyddio heb ots am y tywydd.

Wrth i’r prosiect peilot mynd heibio hanner ffordd, roeddem eisiau siarad efo’r gweithwyr gofal oedd yn ei ddefnyddio, i weld sut oedd y prosiect yn effeithio nhw, os oedd yn wneud unrhyw wahaniaeth i’w gwaith nhw.

Siaradon efo gofalwyr Magda a Frank* am eu profiadau nhw o ymgysylltu â Theithio â Gofal.

 

Y newid syml i deithio sydd wedi gwneud gwahaniaethau enfawr

Un o amcanion Teithio â Gofal oedd i’w wneud yn haws i weithwyr gofal cartref i deithio o gwmpas Bro Morgannwg ar gyfer y gwaith.

Adroddodd y rhan fwyaf o ofalwyr eu bod nhw’n cerdded i’w cleifion, heb fynediad at gerbydau preifat a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus oedd yn cwrdd â’u hanghenion.

Dyna oedd sefyllfa Frank cyn iddo ymgysylltu â’r prosiect.

"Roeddwn i’n cerdded ym mhob man, ac roedd hynny’n boen yn y pen ôl oherwydd gallwch ddychmygu’r tywydd sydd gennym,” mae’n esbonio.

“Credaf roeddwn i’n cerdded rhwng 35 a 45 mil o gamau pob ddiwrnod, ac wrth gwrs ers defnyddio’r e-feic mae’r straen ar fy nghoesau wedi lleddfu.

“Mae’n fy nghymryd i o A i B lot yn gyflymach, mae’n gymaint mor hawdd.”

Yn achos Magda, roedd hi’n defnyddio beic traddodiadol yn barod er mwyn teithio ar gyfer y gwaith, ond gwnaeth y newid i e-feic gwahaniaeth mawr iddi hi hefyd.

“Mae’n lot fwy haws, nid wyf wedi blino cymaint ag oeddwn pan roeddwn ar feic arferol, a phan mae’n wyntog a glawio, mae’n dal i fod yn hawdd iawn i deithio o gwmpas,” mae hi’n dweud.

Nid oedd y ddau ohonynt wedi defnyddio e-feic cyn i’r prosiect dechrau, a dysgodd y ddau ohonynt am y prosiect trwy eu hasiantaethau gofal.

Ers benthyg yr e-feiciau, mae Magda a Frank wedi medru teithio’n bellach yn gyflymach.

Mae Magda wedi adrodd teithio oddeutu 80 milltir y diwrnod ers benthyg ei e-feic, tra bod Frank yn barod wedi cofnodi cyfanswm o dros 700 o filltiroedd.

Gwneud bywyd yn haws a helpu pobl i weithio'n well

Un o’r gwahaniaethau mwyaf ar gyfer Frank yw sut mae defnydd yr e-feic wedi’ helpu i gael mwy o waith.

Gan ddefnyddio’r e-feic a gan iddo fedru cyrraedd mwy o gleifion, mae e wedi gallu ennill mwy o arian a helpu gwneud gwahaniaeth mawr i’w fywyd.

“Rwyf wedi gallu ennill mwy o arian a chael mwy o waith oherwydd rwyf wedi gallu teithio’n bellach,” meddai Frank.

“Ar droed, na fuaswn wedi gallu cerdded o Ddinas Powys i Benarth, ond ar fy meic, mae’n cymryd hanner awr, sydd wedi agor mwy o gleifion ac o ganlyniad rwyf wedi gallu ennill mwy.”

Yn achosion Frank a Magda, mae benthyg yr e-feiciau wedi gwneud teithio ar gyfer gwaith yn llawer mwy cyfleus.

“Clywais amdano trwy fy ngwaith ac roedd yn hawdd iawn i gymryd rhan yn y cynllun,” mae Magda’n adrodd i ni.

“Mae’n llawer mwy haws teithio o gwmpas ar gyfer y gwaith nawr efo’r e-feic.

“Does dim problemau efo’r e-feic ac ie, buaswn i’n sicr yn awgrymu bod cydweithwyr eraill yn cymryd rhan mewn Teithio â Gofal.”

A parked blue e-bike standing at Barry waterfront on a sunny day, with Barry Island in the background.

Mae'r e-feiciau'n dod efo dillad gwrth-ddŵr, cloeau, helmed, a bagiau ar gyfer y beic. Llun gan: Jonathan Bewley.

Prosiect gweledigaethol a gall arwain at newid parhaol

Ar gyfer Frank, dyma ‘di un o’r prosiectau gorau sydd wedi cael ei ddylunio i helpu ef a’i gydweithwyr y mae e’ ‘di gweld.

“Mae wir wedi bod lles, mae’n wir yn gwneud gwahaniaeth mawr i fy mywyd,” dwedir Frank.

“Bydd yn helpu pobl yn fawr iawn, dyna beth nad ydynt yn ddeall.

“Maent yn debygol o feddwl bod llawer o broblemau sy’n dod â chael y beic, ond mae’n mor syml, mae’n agor lan mwy o gyfleoedd i chi efo’r beic.

“Mae’n ffordd lot yn well o fyw na theithio ar eich troed.”

 

*Mae enwau'r gofalwyr wnaethom siarad efo wedi' newid er mwyn diogelu eu hunaniaethau.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru