Dechreuodd Sylvia seiclo'n rheolaidd pan oedd hi'n 70 oed ac nid yw erioed wedi edrych yn ôl. O gadw'n heini, i fwynhau natur a gwneud ffrindiau newydd, mae'n esbonio pam mae beicio yn ei helpu i deimlo miliwn o ddoleri.
"Pan o'n i tua 70 fe wnes i ddarganfod Bicycle Belles, grŵp beicio lleol i ferched.
"Roedd y grŵp yn dda iawn i bob gallu gan y byddai pobl yn ymuno nad oeddent wedi cyffwrdd â beic ers yr ysgol a byddem yn gwneud teithiau hyd at 20 milltir, a oedd yn wych. Byddai ôl-farciwr bob amser felly ni fyddech chi'n poeni am gael eich gadael ar ôl.
"Fe wnes i fwynhau'r daith yn fawr iawn a chwrdd â llawer o bobl drwyddi. Dechreuais seiclo'n rheolaidd i fy nosbarth Tai Chi a oedd yn daith gron o chwe milltir.
"Sylweddolais fy mod i'n seiclo cryn dipyn o filltiroedd yr wythnos mewn gwirionedd, felly penderfynais osod her i mi fy hun i wneud 1,000 o filltiroedd mewn blwyddyn i godi arian i elusen. Wnes i ddim seiclo am hir iawn nac yn mynd yn gyflym a wnes i ddim seiclo pan mae'n wyntog, mae'r gwynt yn codi ofn arna i braidd. Ar ddiwrnod braf, byddwn i'n mwynhau taith hirach."
"Weithiau doeddwn i wir ddim eisiau mynd ar y beic a bydden i'n teimlo'n eithaf isel ond byddwn i'n mynd allan yna a gweld yr awyr a'r adar a'r endorffinau yn cicio i mewn. Gall beicio fod yn eithaf ysbrydol mewn gwirionedd, amser arbennig i feddwl. Roedd pobl yn dal i ddweud wrthyf pa mor ysbrydoledig oedden nhw gen i a'u cegau yn gollwng ar agor pan ddywedais wrthyn nhw fy mod i'n 86 oed.
"Cwblheais fy nharged o 1,000 milltir mewn deuddeg mis a chodais £1,857 ar gyfer elusennau lleol. Cwrddais â'r Boardmans yng nghaffi seiclo Eureka lleol. Roedden nhw wedi clywed am yr her ac wedi fy llongyfarch. Roeddwn i'n teimlo miliwn o ddoleri. Dechreuodd pobl fy ngalw i'n Super Sylvia.
"Doedd neb wedi sylwi arna i o'r blaen ond nawr dwi'n teimlo fy mod i wedi gwneud rhywbeth gwerth ei wneud. Gall newid eich bywyd os byddwch yn mynd ar feic yn 60 oed. Mae pobl yn meddwl na allant ei wneud a dim ond gwylio chwaraeon ar y teledu ond ni ddylai oedran eich atal.
"Dwi'n defnyddio'r beic drwy'r amser ar gyfer teithiau byr i'r siopau neu'r banc. Mae rhwydwaith beicio gwych o gwmpas yma ac os yw'r ffyrdd yn edrych yn beryglus rwy'n hopian i ffwrdd weithiau ac yn gwthio fy meic ar hyd y palmant.
"Fe ges i sgarmes angina tua phum mlynedd yn ôl ond dwi'n siŵr mod i wedi gwneud fy nghalon yn gryfach. Rwy'n gwrando ar fy nghorff ac nid wyf yn ceisio cadw i fyny os na allaf. Rwy'n siŵr bod teithio ar feic yn fy helpu i gadw'n gryf.
"Rydych chi'n gweld llawer mwy ar y beic. Y diwrnod o'r blaen gwelais kestrel yn dysgu kestrel ifanc i hela. Ni fyddwch yn cael cyfle i weld hyn mewn car.
"Dwi'n gobeithio dal i seiclo pan dwi'n 90 oed."
Mae Sylvia Briercliffe yn gefnogwr Sustrans yng Nghilgwri, Glannau Mersi. Fel menyw iau, roedd hi'n defnyddio beic weithiau i fynd o gwmpas ond nawr seiclo yw ei phrif fath o drafnidiaeth. Mae hi'n dymuno y byddai mwy o bobl hŷn yn mynd ar eu beiciau.