Cyhoeddedig: 19th EBRILL 2024

Rwy’n caru fy nhreic gorweddol, ond mae rhwystrau yn fy atal rhag mynd ble gall eraill: Stori Debbie

Archwiliodd Debbie, feteran milwrol yn wreiddiol o Ogledd Cymru, beiciau gorweddol pan oedd hi’n gwasanaethu yn Yr Almaen. Arweiniodd hyn at ddefnyddio treic gorweddol efo’i hanableddau, ond mae rhwystrau mynediad wedi’ hatal hi rhag teithio heb wahaniaethu.

A woman on her recumbent trike with Swansea Bay in the background. She's smiling at the camera, wearing sunglasses and a helmet.

Debbie ar ei thric recumbent, sydd wedi ei helpu i barhau i fod yn egnïol, ar lwybr beicio Bae Abertawe.

Helo, fi 'di Debbie, ac rwyf yn feiciwr addasedig.

Golygir hyn fy mod i'n defnyddio e-treic gorweddol yn lle beic arferol, o ganlyniad i anabledd.

Dechreuais ddefnyddio treiciau gorweddol ar ôl sylweddoli nad oeddwn yn gallu defnyddio beiciau arferol yn bellach.

Rwyf wastad wedi cael trafferthion efo cydbwysedd wrth ddefnyddio beic a hyd yn oed wedi cwympo drosodd ambell waith.

 

Mudiadau hygyrchedd yn helpu mi i feicio unwaith eto

Canfyddais elusen leol yn agos i le ‘dw i’n fyw yn Swydd Gaerloyw oedd yn darparu offer beicio addasedig ar gyfer pobl anabl, ac es i yno i dreialu treic.

Cafodd ei weithredu gan ffisiotherapydd oedd yn gallu gweld sut gall beicio addasedig wir helpu pobl efo anafiadau ac anableddau i adfer a chael ymarfer corff mewn modd hwylus.

Gweithredodd yr elusen Wheels for All sesiynau ar drac athletau a hefyd yn Fforest y Ddena.

Helpodd y gallu i mi feicio yng nghanol natur yn wirioneddol efo fy iselder oherwydd roedd cerdded yn hynod o boenus.

Yn sydyn, teimlais yn fwy galluog a helpodd hynny’n fawr iawn i wella sut oeddwn yn teimlo.

Dros gyfnod yr argyfwng Covid, cefais fy nghynnig i fenthyg treic am gyfnod o dri mis a phrofodd hyn i fod yn help enfawr.

Roedd gen i’r rhyddid i gael ymarfer corff mewn modd nad oedd yn achosi mwy o niwed i mi ac oedd yn caniatáu i mi adeiladau lan ar gyflymder fy hun.

Ar yr un adeg, canfyddais ffrindiau newydd a datblygais sgiliau newydd.

A group of recumbent nine trike users parked side-by-side on a grassy verge for a group photo, on a sunny day.

Mae canfod grŵp o ddefnyddwyr treiciau gorweddol wedi helpu efo’i hadferiad a rhannu profiadau.

Nid yw teithio’n annibynnol heb ei rhwystrau

Yn y pen draw, symudais ymlaen at gael treic fy hun efo cynorthwy trydanol.

Golygir cynorthwy trydanol fy mod i’n dal i bedalu ond gallaf ddelio â bryniau a phellterau hirach – mae’r treic yn pwyso 35kg trwm, felly dydw i ddim yn twyllo o gwbl!

Dechreuais fynd ar deithiau hirach ac un o’r teithiau cyntaf oedd efo fy mrawd, sy’n feiciwr brwd.

Penderfynom wneud y llwybr o Gei Connah: un o’i hoff lwybrau yn croesi’r afon Dyfrdwy ac yn beicio ar hyd y llwybr, trwy’r corsydd hyd at Gaffi Net’s, arhosfa boblogaidd ar gyfer beicwyr penrhyn Cilgwri.

Mae’r ffordd wedi’ rwystro ar hyn o bryd gan ddau rwystr “A-frame” sy’n fy atal i rag defnyddio’r llwybr yn annibynnol.

Mae yna dau ger ochr Cei Connah ac un ar bwys y mynediad i groesfan Pont Dyfrdwy.

Rwyf wedi ymdopi hyd yn hyn gan fod fy mrawd yna efo fi a gan ofyn am help beicwyr eraill i godi fy nhreic dros y rhwystr.

A recumbent trike is positioned in front of an A-frame barrier on a cycle path, demonstrating how it's unable to pass through.

Esiampl o Debbie’n ceisio negodi un o’r rhwystrau “A-frame” efo’i threic hi.

Rhwystrau’n golygu bod rhai’n methu mynd ble gall eraill

Rwyf wir yn gobeithio gall y rhwystrau yma cael eu symud neu eu newid i rywbeth sy’n galluogi mynediad i mi heb yr angen i godi fy nhreic.

Nid yw’r rhwystrau yma dim ond yn fy atal i a defnyddwyr treiciau gorweddol eraill rhag defnyddio’r llwybr yma, ond hefyd pobl yn teithio efo plant mewn ôl-gerbydau beiciau, pobl yn cerdded efo bygiau dwbl, a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd.

Mae pob un ohonom yn ddefnyddwyr dilys, weithiau defnyddwyr ffyrdd bregus, sy’n cael ein hatal rhag defnyddio llwybr beicio, ased cymunedol rhagorol a dylai bod ar gael i bawb.

Dyma amser ble rydym yn cael ein hannog i gael mwy o ymarfer corff.

Mae beicio, olwyno, a cherdded yn foddion gwych o gael ymarfer, adloniant, a thrafnidiaeth.

Credaf fod gwneud y llwybrau yma’n hygyrch i deuluoedd a phobl anabl yn hanfodol o bwysig ar gyfer iechyd, lles, a’r amgylchedd.

Rwy’n rhan o nifer o grwpiau beiciau ar gyfer defnyddwyr gorweddol.

Rydym yn byw efo anabledd, ond mae cael defnyddio ein treiciau’n caniatáu i ni gynnal cryfder a ffitrwydd mewn ffordd sy’n lleihau perygl anaf.

Mae’n rhoi ffordd o gael mynediad at lefydd i ni na fuaswn yn gallu mewn unrhyw fodd arall a chael cymuned ble gallan rannu hwyl, gwybodaeth, ac adnoddau.

Buaswn wrth fy modd yn trefnu taith grŵp o Gei Connah i Gaffi Net’s, ond bydd hyn yn parhau i fod yn amhosib nes i’r rhwystrau yma cael eu gwaredu neu eu symud.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru