Daeth y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhan enfawr o fywyd Gwyneth pan ddechreuodd feicio bob dydd cyn y brifysgol. Yma mae hi'n trafod sut y newidiodd y RhBC ei bywyd.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, cyn i mi ddechrau yn y brifysgol, roeddwn i mewn lle gwahanol iawn yn fy mywyd. Roeddwn i'n byw yng nghefn gwlad de-orllewin Cymru ac roeddwn i ychydig yn bryderus am y newidiadau mawr y byddai mynd i'r brifysgol yn eu gwneud i fy mywyd. Roeddwn i mewn lle gwael yn feddyliol, a gallaf ddweud nawr fy mod yn dioddef o iselder, yn cael trafferth gyda fy mhwysau, fy hunan-werth a fy hyder. Roeddwn yn argyhoeddedig na fyddwn yn gallu ymdopi â mynd i’r brifysgol.
Roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar fy rhieni i fynd â fi i bobman, gan nad oedd gen i gar, a doeddwn i ddim yn gallu gyrru. Gwnes y penderfyniad i ddechrau bod yn fwy egnïol a cheisio cymryd rhywfaint o reolaeth dros fy mywyd cyn dechrau yn y brifysgol.
Dechreuais fynd ar fy meic bob dydd, a newidiodd fy mywyd yn llwyr.
Llwyddais i feithrin hyder newydd, gwellodd fy ffitrwydd a dechreuais deimlo’n wahanol amdanaf fy hun, a pha mor barod yr oeddwn yn teimlo ar gyfer mynd i’r brifysgol. Doedd dim rhaid i mi bellach ddibynnu ar fy nhad i fynd â fi i leoedd, ac roedd gen i fwy o reolaeth ar ble roeddwn i’n mynd a beth roeddwn i’n ei wneud.
Mae Gwyneth yn dweud bod beicio bob dydd wedi newid ei bywyd.
Nawr, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach rydw i wedi gorffen yn y brifysgol, a oedd yn brofiad positif iawn i mi; rwy'n byw yng Nghaerdydd, ac mae gen i swydd wych rydw i wrth fy modd â hi. Rwy'n reidio fy meic i'r gwaith bob dydd. Ac i'r siopau, ac i gyfarfodydd, ac er mwynhad ar y penwythnosau.
Rydw i mor anhygoel o ffodus i gael mynediad i'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Ni allaf fforddio car mewn gwirionedd; maent yn costio cymaint, o safbwynt ariannol ac o ran yr amgylchedd. Ond does dim angen un arnaf i mewn gwirionedd, oherwydd mae gen i fy meic.
Yn sicr, weithiau dwi'n cyrraedd y gwaith ychydig yn chwyslyd, ond rydw i hefyd yn hapus ac yn barod i fynd i'r afael â'r diwrnod.
Nawr yn fwy nag erioed, gyda'r straen sy'n gysylltiedig â bod yn berson ifanc heddiw, mae angen i ni allu mynd allan a mwynhau ein gwlad hardd, heb i’r profiad gostio unrhyw beth.
Rwy'n hynod lwcus fy mod i’n gallu defnyddio'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i gyrraedd y gwaith bob dydd. Mae'n agos iawn i fy nhŷ, felly mae cyrraedd y gwaith yn eithaf hawdd i mi, a does dim rhaid i mi ddod i gysylltiad â gormod o geir. Rwy'n wirioneddol awyddus i eraill gael yr un cyfle. Fyddwn i ddim yn gallu gwneud hyn pe na bai gen i fynediad i lwybr diogel. Nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn ddigon hyderus i reidio ar y ffyrdd.
Rwy'n gefnogol iawn i'r gwaith y mae Sustrans yn ei wneud, wrth sicrhau bod pob person ifanc o bob math o gefndir, ledled y DU yn gallu cael cyfle i fyw bywyd iachach a mwy egnïol.
I mi, mae reidio fy meic a chael mynediad i'r RhBC wedi bod yn antur a newidiodd fy mywyd, ac mae'n dal i wneud hynny bob dydd. Gobeithio, gyda'r gwaith y mae Sustrans yn ei wneud, y bydd gan bawb fynediad at Rwydwaith Beicio Cenedlaethol diogel, a hwnnw wedi’i gynnal yn dda, ac y byddant yn parhau i elwa o'u hanturiaethau eu hunain bob dydd.