Cyhoeddedig: 11th TACHWEDD 2024

Y storïwr o’r Fenni sy’n teithio ar gefn beic: profiad Daniel

Mae poblogaeth y Fenni wedi gallu benthyg e-feic am ddim, diolch i Gyngor Sir Fynwy a phrosiect E-Symud Sustrans Cymru. Yn y blog yma, clywn am brofiadau Daniel, storïwr proffesiynol.

Abergavenny resident Daniel riding a black e-bike in a bike lane, smiling at the camera

Mae Daniel yn un o'r nifer o bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Fenni sy' wedi benthyg e-feic oddi wrth Sustrans Cymru. Llun gan: Sustrans.

Fel llawer o bobl yn y Fenni ac ar led Cymru, roedd Daniel yn teithio i’w gwaith yn ei gar fel arfer.

Gan ei fod yn storïwr proffesiynol, roedd Daniel yn teithio o gwmpas ei ardal leol er mwyn rhannu chwedlau traddodiadol.

Nawr, mae ef wedi gallu gwneud defnydd o e-feic ar gyfer ei deithiau, yn ei alluogi iddo adael y car adref.

Ers iddo fenthyg y beic, mae Daniel wedi bod yn teithio’n gynaliadwy ac yn llesol ar gyfer ei waith, ond mae hefyd wedi gallu archwilio mwy o'r mannau gwyllt yng Nghymru sy’n denu’i galon.

“Gwelais boster yn ffenestr y siop beiciau yma yn y Fenni, felly galwais y rhif ffôn ar unwaith,” mae’n esbonio.

“Rwyf wedi dwli ar ddefnyddio’r e-feic oherwydd mae’r Mynyddoedd Duon yn agos iawn, ond maent yn troi’n anghysbell yn gyflym iawn.

"Mae'n gallu bod yn anodd darganfod rhywle i barcio a does dim gwasanaeth bws i'r Mynyddoedd Duon, felly mae'r beic wedi galluogi mi i bedalu lan i'r mynyddoedd yna a gweld llefydd rwyf wastad wedi eisiau gweld ond wedi canfod yn anghyraeddadwy."

 

Helpu i wneud teithio mewn modd llesol yn fwy hygyrch yng nghefn gwlad Cymru

Mae gan Daniel preswylfa reolaidd rhyw 6-7 milltir i ffwrdd o le mae’n byw yn y Fenni, ac am y tro cyntaf mewn 17 blynedd mae e’n gallu teithio yna heb ddefnyddio’i gar.

“Dydw i erioed wedi teithio yna heb fy nghar, hyd at fenthyg y beic.

“Yn sydyn, roeddwn yn gweld nentydd a thai wrth i mi deithio, roeddwn yn gweld y dirwedd mewn ffordd newydd.”

Yn ogystal â’i breswylfa, ble mae Daniel yn rhannu chwedlau traddodiadol efo plant a phobl ifanc sy’n ymweld â chefn gwlad Cymru, mae ef hefyd wedi gallu cyrraedd cyfleoedd gwaith eraill diolch i’r e-feic.

"Roedd gen i sioe yng Nghrucywel yn ddiweddar, a beiciais yna ac yn ôl, roedd hynny'n braf.

"Rwyf hefyd wedi beicio i'r orsaf trên ar nifer o achlysuron ac yna wedi cymryd trên i Gwmbrân neu Gasnewydd neu Gaerdydd."

Abergavenny resident Daniel riding past the Little Green Refills shop in Abergavenny a black e-bike on a sunny day

Mae Daniel wedi gallu defnyddio'r e-feic ar gyfer ei waith, sy'n golygu ei fod e'n gallu gadael y car adref ac arbed arian ar danwydd. Llun gan: Sustrans.

Archwilio anialoedd Cymru ar gefn e-feic

O safbwynt Daniel, un o’r pethau gorau am fenthyg yr e-feic yw’r ffordd mae’r beic wedi’ alluogi ef i archwilio mwy o’i ardal leol.

“Yr hyn sydd wedi fy synnu yw fyd mod i’n gallu teithio i rannau o’r Mynyddoedd Duon doeddwn i erioed wedi sylweddoli oedd yn bodoli, dim ond llinellau ar fap oeddynt.

“Synnais fy hun ar fy nhaith gyntaf, gan ddefnyddio lan holl bŵer y batri!

“Roedd angen i mi feicio’r holl ffordd yn ôl heb gymorth y batri o Landdewi Nant Honddu, a oedd yn her oherwydd ffrâm y beic – roedd yn eithaf trwm, felly ie, dysgais i fy ngwers.”

Gan edrych ymlaen, i Daniel, mae benthyg e-feic wedi cael effaith ar sut mae'n ystyried trafnidiaeth.

"Y cwestiwn mawr yw a oes modd i berchen ar e-feic, a phe bawn i'n gallu perchen ar un yna ie, byse'n effeithio ar fy nghynlluniau teithio, yn gyffredinol.

"Pa un ar gyfer ymweliadau cymdeithasol ai teithiau ar gyfer y gwaith, buaswn yn ystyried beicio i'r orsaf trên, cymryd trên gadael y beic neu'i gymryd efo fi a cheisio gwneud y siwrneiau yna heb ddefnyddio'r car.

"A bydd hynny'n golygu gallan gael gwared ag un o'n ddau geir efallai, rhywbeth mae fy ngwraig wedi eisiau gwneud am sbel."

 

Rhan o'r datrysiad, ond nid yr ateb llawn

Un o’r heriau wynebodd Daniel wrth iddo fenthyg ei e-feic oedd ble i gloi’r beic, sy’n tanlinellu’r angen am fwy o isadeiledd beicio.

“Weithiau mae rheiliau beic yn brin iawn.

“Mae’n iawn yn y Fenni, ond unwaith i mi fynd lan i’r mynyddoedd, roedd angen i mi chwilio am ryw fath o ffens neu rywbeth.

“Roedd gwahanol lefydd ble nad oeddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw beth, ac maent yn llefydd sy’n boblogaidd efo cerddwyr, felly os oes modd cysylltu pethau lan fel bod rhywle i gloi’ch beic mewn maes parcio neu gilfan.”

Am fwy o wybodaeth ar fenthyg e-feic, cysylltwch â Rodri Guimerà Zarranz ar rodri.gz@sustrans.org.uk, os gwelwch yn dda.

 

Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn gwneud yng Nghymru.

Rhannwch y dudalen hon

Darllenwch y newyddion diweddaraf ar led y DU