Mae'n hysbys bod gweithgarwch corfforol yn allweddol i iechyd a lles pobl, gyda nifer o astudiaethau'n dangos bod pobl sy'n cerdded ac yn beicio yn mwynhau bywydau hirach ac iachach.
Yn gynyddol, fodd bynnag, mae ymchwil ar fanteision hirdymor cerdded a beicio yn datgelu buddion sydd hyd yn oed yn fwy nag a feddyliwyd yn flaenorol. Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i atal nifer o gyflyrau iechyd difrifol ac arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG bob blwyddyn.
Gan gasglu'r ymchwil hwn, mae rhai o'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Mae beicwyr rheolaidd yn lleihau eu risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd 46%.
- Mae pobl sy'n gorfforol egnïol yn lleihau'r siawns o gael diabetes hwyr rhwng traean a hanner.
- Mae beicio i'r gwaith yn lleihau'r risg o ganser 45%.