Maniffesto ar gyfer Llywodraeth y DU

Newid hinsawdd yw'r bygythiad hirdymor mwyaf sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig.

Mae'r etholiad hwn yn gyfle i bleidiau gwleidyddol gefnogi gweithredu a fydd yn lleihau allyriadau carbon trwy ei gwneud hi'n haws i bawb gerdded a beicio.

Rydym wedi creu ceisiadau i'r llywodraeth nesaf ymrwymo a helpu mwy o bobl i leihau eu gorddibyniaeth ar y car ac yn hytrach cerdded neu feicio ar gyfer siwrneiau bob dydd.