Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 7th JUNE 2024

Sut helpodd y Rhaglen Teithiau Iach dysgu disgyblion yn ogledd Cymru sut i feicio

Ar ôl cysylltu â'i Swyddog Teithiau Iach lleol, cymerodd staff Ysgol Cymerau ym Mhwllheli rhan mewn sesiwn hyfforddiant beicio. Dysgon nhw yn gyntaf o fudiad hyfforddi cyn dysgu sgiliau cynnal a chadw sylfaenol a sgiliau beicio i grŵp o ddisgyblion nad oedd erioed wedi gallu beicio o'r blaen.

Pupils from Ysgol Cymerau posing for a photograph on their school yard on their bikes, wearing helmets.

Dysgodd disgyblion o Ysgol Cymerau ym Mhwllheli sut i reidio beiciau ar ôl cymryd rhan yn y sesiwn efo staff Sustrans a'r ysgol.

O ganlyniad i'r Rhaglen Teithiau Iach a ariannir gan Lywodraeth Cymru, gall ysgolion ar draws Cymru cofrestru i dderbyn cefnogaeth i hybu hyder a sgiliau eu disgyblion ym myd teithio llesol.

Yn gynharach y flwyddyn yma, gweithiodd Ysgol Cymerau ym Mhwllheli â Sustrans Cymru i helpu gweithredu sesiwn hyfforddiant beicio.

Roedd nifer o ddisgyblion yr ysgol naill ai methu defnyddio beic neu doeddynt erioed wedi defnyddio un o'r blaen.

Diolch i gydweithrediad rhwng yr ysgol â'r Rhaglen Teithiau Iach, roedd hyn am newid.

 

Adnabod yr angen i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth

Mae Ruth yn wirfoddolwr newydd ar gyfer Sustrans, sydd wedi bod yn gweithio â Debbie, ein Swyddog Teithiau Iach ar gyfer gogledd-orllewin Cymru, dros y misoedd diwethaf.

Roedd Ruth ar gael i gymryd rhan mewn darpariaeth rhai sesiynau hyfforddiant beicio, wedi' hyrwyddo gan bencampwr teithio llesol yr ysgol, Janet.

Ar ôl mynd trwy'r elfennau sylfaenol ar offer a chynnal a chadw, symudodd y grŵp - yn cynnwys cynorthwywyr dosbarth, athrawon, Ruth, a dwy o Swyddogion Teithiau Iach Sustrans - ymlaen at arferion dysgu plant i ddefnyddio beic.

Unwaith iddynt dderbyn yr hyfforddiant yna gan NCA Academy, aeth y grŵp ati i rannu'r hyn dysgon efo'r disgyblion.

Oedran y grŵp oedd rhwng 7 ac 11 mlwydd oed, efo plant nad oedd yn gallu defnyddio beic, a rhai heb erioed wedi mynd ar gefn un o'r blaen.

Blockquote quotation marks
'Dw i mor hapus bo' fi 'di llwyddo i reidio beic ar ben fy hun, mi oedd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ers blynyddoedd. Blockquote quotation marks
Disgybl Ysgol Cymerau

Galluogi plant i ddysgu sgiliau newydd ac adeiladu hyder

O fewn awr, roedd y rhan fwyaf o'r disgyblion yn gallu reidio'n annibynnol, yn pedalu o gwmpas yr iard.

"Roedd yn anhygoel i mi allu helpu rhai o'r plant yma i gael yr hyder i afael yn y beiciau a dysgu sut i sgwtera, yna i wthio bant, ac yna i reidio," meddai Ruth ynglŷn â'r profiad.

"Mae beicio'n rhoi llawer o bleser i mi ac rwyf yn mwynhau pasio hyn ymlaen i'n cenedlaethau ifancach."

Roedd yr adborth gan y disgyblion yr un mor rhyfeddol â chanlyniadau'r sesiwn.

"'Dw i mor hapus bo' fi 'di llwyddo i reidio beic ar ben fy hun, mi oedd yn rhywbeth roeddwn i eisiau ers blynyddoedd; mi oedd fy ffrindiau i gyd yn gallu a finnau ddim," dwedodd un disgybl.

 

Newid bywydau disgyblion yng Nghymru

Un o'r prif lwyddiannau oedd un disgybl a oedd wedi mynychu sesiynau hyfforddiant beicio o'r blaen, heb unrhyw lwc.

"Doeddwn i erioed wedi meddwl bydd hi byth yn mynd i ddysgu i reidio beic," esboniodd Ms Rivers, rhiant y disgybl.

"Rydym wedi ceisio tro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf yma heb unrhyw lwyddiant, ond ar ôl sesiwn o awr efo Swyddogion Teithiau Iach Sustrans a'r gwirfoddolwr, llwyddodd hi'n annibynnol i reidio beic o gwmpas iard yr ysgol.

"Ers y sesiwn, mae hi wedi reidio beic i'r ysgol a chymryd rhan mewn 'Bws Beic' sydd wedi' drefnu gan staff yr ysgol.

"Mae'n fendigedig ei bod hi 'di dysgu'n mor gyflym, a nawr ei bod hi'n mor frwd am reidio'i beic - rwy'n hynod o falch ohoni."

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru