Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 6th SEPTEMBER 2024

E-feiciau ar gael i bobl Merthyr Tudful i fenthyg am ddim

Yn dilyn ymlaen o lwyddiannau'r prosiect mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi partneru â Sustrans Cymru i ddod â'r prosiect benthyca e-feiciau, E-Symud, i un o drefi mwyaf eiconig cymoedd De Cymru.

Two parents stand astride their bikes with their children on scooters, in a park setting.

Gall pobl a busnesau yn Ferthyr Tudful benthyg e-feic am ddim diolch i brosiect Sustrans Cymru. Llun gan: Tom Lee.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi partneru ag elusen flaenllaw teithio llesol y DU, Sustrans, i ddod â'r prosiect benthyca e-feiciau E-Symud i Ferthyr.

Mae'r fenter yma wedi' ariannu gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFG) sy'n ffurfio rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a bydd yn ymrwymo dros £2.6bn o nawdd ar gyfer buddsoddiad lleol ar led Yr Alban, Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Nod y GFG Llywodraeth y DU yw cefnogi'r ffyniant ym mhob man o'r DU.

Ei phwrpas yw cynyddu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw, yn ogystal â gwella gwasanaethau cyhoeddus, adfer teimlad o gymuned, a grymuso cymunedau.

Bydd y prosiect E-Symud yn helpu cynnig modd o drafnidiaeth gynaliadwy i fusnesau yn Ferthyr Tudful a'u gweithwyr - am ddim - gan alluogi nhw i weithio tuag at leihau eu hôl troed carbon.

Pwrpas nawdd y GFG ar gyfer busnesau lleol yw cefnogi eu datblygiad a'u thyfiant.

Bydd y prosiect yma hefyd yn weld gostyngiad yn y traffig yn ein cymdogaethau, gan arwain at gymdogaethau llewyrchus a busnesau ffyniannus.

Gall pobl sy'n byw yn Ferthyr Tudful nawr benthyg un o'r 10 e-feiciau am ddim am fenthyciad o bedair wythnos, a gall busnesau a mudiadau eu benthyg nhw am gyfnod o 12 wythnos.

Mae buddiolwyr E-Symud wedi adrodd yn gyson bod eu hiechyd a'u lles wedi gwella o ganlyniad i fenthyg a defnydd e-feic. Llun gan: photojB.

Galluogi pobl i roi cynnig ar fodd cynaliadwy o deithio, am ddim

Yn wreiddiol yn brosiect peilot a ariannir gan Lywodraeth Cymru wedi' ddarparu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, mae E-Symud nawr ar gael i Ferthyr Tudful a'i phoblogaeth.

Dwedodd Charlie Gordon, Cydlynydd Prosiect Sustrans Cymru:

"Mae'n fendigedig ein bod ni'n gallu dod ag E-Symud i Ferthyr, dyma hwb go iawn yng nghymoedd de Cymru a gall elwa o'r math yma o brosiect.

"Mae E-Symud yn rhoi'r cyfle i fusnesau a phobl cael profi e-feic am ddim, mae'n rhoi'r rhyddid a'r gallu iddynt roi cyfle arnynt ar gyfer ei hunain, ac yn fwy aml na'u peidio mae pobl yn troi atynt!

"Rydym yn hynod o falch i helpu pobl Merthyr Tudful i roi cyfle ar fodd o drafnidiaeth sy'n hwylus, cynaliadwy, a rhad - gallwch bweru'r batri yn eich cartref neu yn y gwaith a theithio o gwmpas yn gyflym ac yn hawdd.

"Mae e-feiciau yn eich arbed arian ar danwydd, maent yn helpu chi i gadw'n heini, maent yn gallu cludo chi'n bellach na feic arferol, ac maent yn wneud bryniau'n lot yn hawsach."

Mae busnesau a mudiadau sydd eisoes wedi defnyddio’r prosiect E-Symud wedi adrodd yn gyson costau teithio llai, eu bod nhw’n arbed arian ar barcio a thanwydd, ac amseroedd teithio llai, tra bod unigolion wedi adrodd gwelliannau i'w ffitrwydd, i'w lles, yn ogystal ag annibyniaeth a hyder cynyddol.

Am fwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda, cysylltwch â'n swyddog prosiect, Steve, ar 07825 659672 neu e-bostiwch.

 

Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi cerdded, olwyno a beicio.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf gan Sustrans