Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 5th OCTOBER 2022

Sut elwodd prosiect amaethyddiaeth cymunedol o brosiect e-feiciau

Mae'r prosiect E-Symud, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithredu ym mhump ardal gwahanol ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe. Yn y blog yma, mae Tom O’Kane, buddiolwr sy’n gweithio fel rhan o brosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir Gan y Cymuned (AGG) Cae Tân ar benrhyn y Gŵyr, yn trafod sut wnaeth cael mynediad at e-feic cargo ei helpu.

Upclose shot of man's face, he is smiling and wearing a straw and stood in front of a red tractor.

Buddiolwr y prosiect E-Symud, Tom, yng Nghae Tân, prosiect amaethyddol a gefnogir gan y cymuned. Llun gan: Tom O'Kane.

Rwyf newydd ddod i ddiwedd fy menthyciad o e-feic cargo am dri mis gan Sustrans, diolch i’r prosiect E-Symud cael ei weithredu yn ardal Abertawe.

Rydw i’n gweithio ar fferm cymunedol fach o’r enw Cae Tân, sef prosiect amaethyddol a gefnogir gan y gymuned (AGG) sy’n tyfu llysiau am 130 o deuluoedd lleol yn ardal y Gŵyr.

Rydym yn cynaeafu’r llysiau rydym yn tyfu unwaith yr wythnos, ac yna’n cludo nhw i hwb lleol ble mae pobl yn dod i’w casglu.

Mae amaethyddiaeth gymunedol yn fwy na dim ond darparu bwyd i bobl – rydym yn creu rhywbeth sy’n fwy, rydym yn ail-greu sut mae’r system bwyd lleol yn gweithio.

 

E-Symud yn rhoi mynediad at gyfleoedd i bobl

Roedd yr e-feic cargo a’r cyfle i gael mynediad ati trwy E-Symud yn wych.

Rwyf wedi cael y cyfle i geisio defnyddio e-feic a darganfod sut gallant ddisodli’r car ar gyfer teithio i’r gwaith, ac mi oedd hefyd yn cymorth enfawr wrth gludo pethau o gwmpas yn y gwaith.

Mae’r mwyafrif o’r amser rwyf yn defnyddio car yn ystod y gwaith yn cael ei dreulio ar gymudo.

Mae ‘na tair rhiw sy’n wirioneddol serth rhwng Cae Tân a’n cartref i, ac er fy mod i’n gwneud swydd gorfforol iawn, roedd yn bleser cael cymryd yr e-feic cargo ar gyfer y daith.

Yn y gwaith, rydym yn aml yn symud hambyrddau hadau rhwng caeau, ac yna mae’r cynhaeaf wythnosol.

Rydym yn tueddu i gludo tunnell neu fwy o lysiau am filltir er mwyn i aelodau casglu.

Gwnaeth yr e-feic cargo yn wych wrth fy nghludo i, fy offer, a fy nhaclau nol ac ymlaen i’r caeau pob diwrnod.

 

Teithio llesol a manteision newid ymddygiad teithio

Rwyf wir wedi mwynhau beicio yn hytrach na gyrru, felly nawr i mi ddod i ddiwedd fy nghyfnod benthyg rydym wedi addasu un o’n beiciau i fod yn drydanol.

Rydym wedi ychwanegu rhac iddo hefyd – nid e-feic cargo go iawn, ond dewis arall sy’n rhad ac yn gweithio’n gystal!

Diolch i’n Swyddog E-Symud lleol, Paul, a phawb yn Sustrans am fy nghaniatáu’r cyfle i wneud defnydd o’r prosiect.

Diolch hefyd am wneud y broses cofrestru mor hawdd – buaswn wir yn argymell bod unrhyw un sy’n gymwys ar gyfer y prosiect yn cysylltu â Sustrans.

 

Am y prosiect E-Symud

Prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’ ddarparu mewn partneriaeth â Sustrans, sy’n galluogi pobl i fenthyg beiciau trydanol yw E-Symud.

Mae ‘na 20 e-feic ar gael trwy’r prosiect i bobl, busnesau a mudiadau yn Abertawe a’r ardal gyfagos i ddefnyddio.

Mae’r prosiect E-Symud hefyd yn cael ei weithredu mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Y Barri, Y Drenewydd, a’r Rhyl.

  

I ddysgu mwy am y prosiect E-Symud yn Abertawe, neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect E-Symud ar draws Cymru, cysylltwch â paul.thomas2@sustrans.org.uk neu ar 07467 338722.

  

Darganfyddwch fwy am y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru sy’n aros i gael eu harchwilio.

Share this page