Roedd Ceri, nyrs o’r Barri, yn chwilio am ffordd o leihau cost ei thaith ddyddiol. Gyda diffyg hyder yn ei gallu i feicio ar ffyrdd lleol prysur, roedd hi’n teimlo nad oedd beic yn opsiwn. Ond mae’r cyfle i fenthyg e-feic am ddim gan brosiect E-Symud, ac i fagu hyder drwy hyfforddiant Bikeability, wedi newid ei meddwl, a’i bywyd.
![](/media/12597/ceri-had-a-chat-with-us-about-why-she-loves-cycling.png?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Cafodd Ceri sgwrs gyda ni am sut mae beicio wedi newid ei bywyd. Llun gan J Bewley.
“Roeddwn i’n dechrau swydd newydd mewn meddygfa yn y Barri, oedd ond dair milltir o fy nghartref.
“Roedd teithio i fy swydd flaenorol, a oedd lawer ymhellach i ffwrdd, wedi bod yn costio tua £200 y mis i mi.
“Dechreuais feddwl y gallai seiclo i'r gwaith bob dydd gael gwared ar y gost honno.
“Ond doeddwn i ddim wedi bod ar gefn beic ers tua 10 mlynedd. Doedd gen i ddim hyder, yn enwedig ar y prif ffyrdd.
“Ar ôl ystyried cael gwersi beicio, cefais fy nghyfeirio at Sustrans.
“Fe wnes i egluro pa mor nerfus oeddwn i, ac fe wnaethon nhw awgrymu fy mod i’n rhoi cynnig ar e-feic ac yn cael rhywfaint o Hyfforddiant Bikeability.”
Goresgyn ofnau a magu hyder
Fe wnaeth Ceri fenthyg e-feic am gyfanswm o wyth wythnos, cyn prynu ei beic ei hun.
Llwyddodd i gael hyfforddiant Bikeability drwy Sustrans gan fod ei chyflogwr wedi llofnodi Siarter Teithio Iach Bro Morgannwg.
Yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny, cafodd fudd o hyfforddiant i’w helpu i fagu hyder ar ddwy olwyn a goresgyn ei hofnau.
“Deuthum i arfer â’r e-feic yn eithaf cyflym.
“Euthum i’w nôl o’r Barri a beicio gartref, felly roeddwn i’n gwybod o’r diwrnod cyntaf fy mod i’n iawn ar ffyrdd tawel.
“Ond roeddwn i wir angen y gwersi cyn mynd ar ffyrdd prysur gyda llawer o draffig.
“Roeddwn i’n poeni am wneud rhywbeth o’i le a rhoi fy hun mewn perygl yn ddiarwybod.
“Rhoddodd y gwersi’r hyder ychwanegol hwnnw i mi oedd ei angen arnaf i feicio ymhellach i ffwrdd a defnyddio ffyrdd prysur.
“Nawr does gen i ddim problem dal y traffig yn ôl a beicio ar fy nghyflymder fy hun. Rwy’n teimlo mai fi sy’n rheoli.
“Roedd diffyg hyder yn rhwystr mawr i allu mwynhau beicio ac fe wnaeth y gwersi fy helpu i oresgyn hynny.”
Hyd yn hyn, mae Ceri wedi cyfyngu ei chymudo i ddau ddiwrnod yr wythnos. Ond mae hi’n dweud:
“Rydw i wedi sylwi fy mod i’n bendant yn teimlo’n fwy ffres pan fydda i’n dod i’r gwaith ar y diwrnodau rydw i’n mynd ar fy meic.
“Rydw i wedi cyflawni rhywbeth cyn i mi gyrraedd hyd yn oed, a dim ond pum munud yn fwy ar y beic mae’n ei gymryd i mi nag y mae’n ei gymryd yn y car.”
![](/media/12598/ceri-from-barry-commutes-by-bike.png?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Ers i Ceri ddechrau beicio, mae ei thaith ddyddiol i’r gwaith wedi newid er gwell. Llun gan: J Bewley.
Hwb i iechyd meddwl
“Y gwahaniaeth mwyaf mae’r beic wedi’i wneud yw i fy iechyd meddwl.
“Mae seiclo i’r gwaith yn rhoi mwy o le i mi feddwl, mae’n amser datgywasgu.
“Rydw i’n lwcus oherwydd rwy’n cael beicio drwy Barc Porthceri. Does dim rhaid i mi feddwl am draffig yno, mae’n dawel, yn heddychlon ac nid oes neb o gwmpas ar wahân i’r wiwerod!
“Ar e-feic, gallwch weithio mor galed neu gyn lleied ag y dymunwch chi. Mae gwneud yr ymdrech gorfforol honno yn fy helpu i ymlacio. Mae’n ffordd o gael gwared ar straen.
“Mae’n wych cael yr opsiwn hwnnw o beidio â defnyddio fy nghar bob dydd.
“Mae bod yn sownd mewn traffig yn ychwanegu straen at eich diwrnod, ond pan fyddwch chi’n beicio rydych chi’n cael awyr iach a heulwen ar eich wyneb.”
Ffordd fwy cost-effeithiol o gymudo
Mae Ceri eisoes wedi sylwi ar wahaniaeth yn y swm y mae’n ei wario ar danwydd bob mis ac mae’n gweld ei e-feic fel buddsoddiad a fydd yn arbed mwy o arian iddi yn y tymor hwy. Dywedodd:
“Mae hefyd yn arbed amser i mi.
“Fel arfer, rwy’n mynd i ddosbarthiadau ymarfer corff ar ôl gwaith ond, erbyn i mi gyrraedd adref, newid fy nillad a theithio yno, mae’n cymryd y rhan fwyaf o’m noson.
“Gyda’r e-feic, rydw i’n cyflawni popeth wrth gymudo. Mae’n wych ar gyfer ffyrdd prysur o fyw.
“Ac, er bod yr arbedion cost yn bwysicach ar y dechrau na’r effaith amgylcheddol, rydych chi wir yn teimlo eich bod yn gwneud rhywbeth da i'r byd pan fyddwch chi’n beicio heibio’r holl geir.
![](/media/12599/ceri-cycling-in-barry.png?anchor=center&mode=crop&width=730&height=410)
Ceri yn beicio i’r gwaith yn iachach ac yn hapusach ar ei e-feic. Llun gan: J Bewley.
Rhowch gynnig ar e-feic – gallai newid eich bywyd
“Roedd gallu treialu’r e-feic, heb unrhyw ymrwymiad, yn wych.
“Os ydych chi’n meddwl am y peth, ewch amdani. Does dim byd i’w golli a chymaint i’w ennill!
“Mae’r profiad hwn wedi newid fy mywyd.
“Mae’n hobi newydd, mae’n arbed arian i chi ac mae mor dda i’ch lles.”
Gwybodaeth am y prosiect E-Symud
Mae E-Symud yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Sustrans, sy’n galluogi pobl i fenthyg beiciau trydan am ddim am bedair wythnos.
Mae 20 o e-feiciau ar gael drwy’r cynllun yn y Barri a’r ardal gyfagos i’w defnyddio.
Mae’r prosiect hefyd yn cael ei gynnal mewn dinasoedd a threfi eraill ledled Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, y Drenewydd, y Rhyl ac Abertawe.
Mae’r prosiect E-Symud wedi helpu pobl sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael, dim mynediad at geir, sy’n hŷn a gyda chyflyrau iechyd i gael mynediad at e-feiciau a’u benthyg am ddim, gyda 70% o’r cyfranogwyr yn adrodd am effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, a 76% yn adrodd am effaith gadarnhaol ar eu lles.
E-Symud Treialu benthyca e-feiciau a beiciau e-cargo yng Nghymru
Cysylltwch â E-Move drwy e-bostio EMove.Barry@sustrans.org.uk.