Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 7th DECEMBER 2023

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn fy nghymuned trwy deithio llesol: Stori Hannah

Yn y blog gwadd yma, rydym yn clywed oddi wrth Hannah am ei phrofiad hi o fenthyg e-feic am ddim am fis i gymudo i'r gwaith, mynychu apwyntiadau ysbyty, ac i wella ei ffitrwydd. Trwy ein prosiect E-Symud a ariannir gan Lywodraeth Cymru, helpodd Hannah, o Abertawe, i arwain gan esiampl ar gyfer y cymunedau yn ei hardal gan annog teithio llesol.

An E-Move project beneficiary smiling whilst looking at the camera, stood astride her e-bike on a residential street.

Mae Hannah wedi bod yn defnyddio’i e-feic i deithio i ac oddi wrth y gwaith, sydd wedi helpu iddi ddangos yr effaith positif o seiclo i eraill. Llun gan: Hannah Sabatia\Sustrans.

Fy enw i yw Hannah Sabatia, ac rwyf yn fenyw 46 mlwydd oed du Affricanaidd.

‘Dw i’n byw yn Abertawe ac yn gweithio i Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe yng nghanol y ddinas fel Swyddog Datblygu Rhaglen Allanol Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Mae rhan fawr o’n rôl yn cynnwys negeseuon iechyd allweddol efo’r gymuned amryfath sydd gennym yn Abertawe, i helpu gwella iechyd a gostwng anghyfiawnderau iechyd.

Rwyf hefyd yn creu ffyrdd o rannu’r negeseuon allweddol yma, naill ai trwy grwpiau, dosbarthiadau bwyta’n iach, neu weithgareddau corfforol.

 

Bod yn iachus er mwyn mynd i’r afael â phroblemau iechyd

Fel rhan o’n swydd, dechreuais grŵp ‘Nofio a Seiclo’ i gwrdd ag angen a deilliodd o sesiwn grŵp.

Roeddem yn siarad am ffactorau risg diabetes a’r ffyrdd o oedi dechreuad diabetes math 2 yn y gymuned.

Yn ystod y sesiynau yma, soniodd y rhan fwyaf o gyfranogion, a oedd yn fenywod ethnig lleiafrifol, nad oeddent yn gallu nofio neu seiclo – dau weithgaredd sy’n cael ei awgrymu i gadw’n iachus.

Felly, cytunom i ddechrau grŵp i helpu annog dysgu a chymryd rhan yn y gweithgareddau yma.

Erbyn heddiw, mae dros 70 o gyfranogion yn y grŵp!

Y syniad yw i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl, gan fynychu rhai sesiynau seiclo i ddysgu sgiliau seiclo gan BikeAbility a chanfod beiciau fel bod pobl yn gallu parhau i ymarfer.

 

Archwilio e-feiciau fel dull o deithio

Clywais am brosiect E-Symud Sustrans trwy fy ngwaith ar gyfer CGGA.

Roedd y syniad o deithio’n llesol yn boblogaidd yn fy ngwaith, ac arwyddodd y mudiad Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe.

Gwirfoddolais i gymryd rhan yn hyn a dyna sut glywais am yr e-feiciau gan un o’r rheolwyr.

Cysylltais â Paul, swyddog prosiect lleol Sustrans, a chytunom i gwrdd a siarad amdani.

Meddyliais am aelodau’r grŵp Nofio a Seiclo hefyd, am sut byddant yn gallu elwa, ond roeddwn yn gwybod roedd angen i mi arwain gan esiampl yn gyntaf.

 

Defnyddio e-feic i deithio o gwmpas

Arwyddais fy nghytundeb e-feic ar y 7fed o Fedi ac roeddwn yn gynhyrfus i ddechrau, ond ar ôl cyfnod bach dechreuais i fwynhau.

Ers ‘yn, rwyf wedi mwynhau rhai teithiau go dda i ac oddi wrth y gwaith.

Yn ddiweddar, llwyddais i fynychu fy apwyntiad ysbyty efo’r beic, profiad gwych i mi.

Nid wyf wedi mwynhau’r beic yn unig, ond rwyf hefyd wedi rhannu fy mhrofiadau efo rhai aelodau o’r grŵp Nofio a Seiclo sydd wedi ymddiddori.

Hyd yn hyn, mae oddeutu pum person arall wedi cysylltu â Sustrans i drefnu benthyciad e-feic ei hunain.

 

Y pwysigrwydd o wneud yn siŵr bod teithio llesol ar gael i bawb

Er y profiadau dymunol, mae ‘na wedi bod ambell her hefyd.

Y tywydd, diffyg lle i seiclo ar yr hewl, a phrinder o lefydd i gloi eich beic o gwmpas y ddinas – yn enwedig mewn ysbytai.

Serch hynny, nid yw’r heriau yma’n ormodol pan rydych yn cymharu â’r manteision iechyd sy’n dod o seiclo.

Mae’r e-feic yn faint bach ac yn hawdd i yrru ymlaen, sy’n golygu nad wyf yn teimlo’n rhy flinedig ar ôl ei ddefnyddio, hyd yn oed mewn ardal fryniog.

Rwy’n cyrraedd fy nghyrchfan yn gyflymach na cherdded, ac weithiau’n gyflymach na char.

Gan edrych ymlaen, hoffwn gadw’r beic yma neu un fel hyn oherwydd rwy’n teimlo’n frwdfrydig i seiclo i’r gwaith y rhan fwyaf o’r amser pan ei fod yn sych.

Hoffwn hefyd gweld mwy o bobl o’r grŵp Nofio a Seiclo yn seiclo mewn grŵp wrth iddynt symud ymlaen, yn cyflawni eu hamcanion o ddysgu’r ddau sgil a gwella eu hiechyd a lles.

Mae diffyg arian wedi profi’n broblem wrth geisio chwilio am athro nofio, ond mae’r prosiect E-Symud yma’n syniad gwych er mwyn annog seiclo.

Gobeithiaf bydd y math yma o fenter lles ac iechyd am gael ei flaenoriaethu, a gobeithiaf byddan ni i gyd yn cwrdd am ddathliad a thaith grŵp ar hyd yr arfordir i’r Mwmbwls!

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru