Adnoddau ar gyfer Cynllun Teithio Llesol eich Ysgol

Defnyddiwch ein hadnoddau i greu cynllun teithio llesol ar gyfer eich ysgol ac i ymgysylltu â chymuned eich ysgol trwy gerdded, olwyno a beicio.

 

Rydym wedi defnyddio ein blynyddoedd o brofiad o weithio gydag ysgolion a phartneriaid awdurdodau lleol ledled Cymru i lunio ein deunyddiau, sy’n darparu canllawiau ymarferol a chyngor ar hyrwyddo teithio llesol mewn ysgolion.

Prif adnoddau

Datgloi potensial eich ysgol o ran teithio llesol. Y templed a’r canllaw cam wrth gam ar gyfer llunio cynllun teithio llesol eich ysgol.

Enghreifftiau ac astudiaethau achos

Ysbrydoliaeth: Bydd y camau gweithredu a’r gweithgareddau enghreifftiol yn rhoi llawer o syniadau i chi ar gyfer eich ysgol. Edrychwch ar yr enghreifftiau gwledig/trefol i gael rhagor o ysbrydoliaeth o ran sut gallai cynllun teithio llesol eich ysgol edrych.

Taflen hyrwyddo

Codwch ymwybyddiaeth drwy rannu’r daflen hyrwyddo â chymuned eich ysgol.

Map Parthau Cerdded

Lluniwch fap parthau cerdded, sy’n nodi’r amser y mae’n ei gymryd i gyrraedd yr ysgol ar droed, i ysbrydoli cymuned eich ysgol.

Arolwg Dwylo i Fyny

Ewch ati fel ysgol i gymryd rhan yn yr Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol, sef menter flynyddol a gyflwynir i bob ysgol yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r arolwg yn ffordd hwyliog o godi ymwybyddiaeth o deithio llesol ymysg plant ym mlynyddoedd 1 i 6, ac i annog disgyblion i ystyried cerdded, olwyno neu feicio i’r ysgol. Mae hefyd yn weithgaredd y bydd y dosbarth yn ei fwynhau, ac mae’n cymryd llai na deg munud i'w gwblhau.

Adnoddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Dewch o hyd i gynlluniau gwersi, gwasanaethau a gweithdai diddorol ar gyfer ysgolion sy’n cyd-fynd â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ac sydd wedi’u llunio i wella dealltwriaeth o amgylchedd eich ysgol.

 

Pecyn Archwilio Strydoedd Iach

Mae’r pecyn adnoddau cynhwysfawr hwn yn tynnu sylw at wahanol agweddau ar ddylunio strydoedd a sut gall hynny helpu i wneud stryd yn ‘iach’ neu beidio.

Drwy weithgareddau gwaith maes rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae strydoedd eu hysgol wedi'u ffurfweddu ar gyfer teithio llesol.

Mae’r pecyn yn cynnwys cynlluniau gwersi, gweithdai i ddisgyblion, canllawiau i athrawon, a chyflwyniad ar ddylunio strydoedd.

Lawrlwythwch yr adnoddau isod:

 

Pecyn Cymdogaethau 20 munud

Ewch ati i archwilio’r cysyniad o ‘gymdogaethau 20 munud’ ac arwyddocâd gofod gyda’r pecyn adnoddau hwn.

Cewch ymgymryd â chyfres o bedwar gweithdy ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gyda’r nod o werthuso’r ardal leol o amgylch yr ysgol, nodi rhwystrau rhag cerdded, olwyno a beicio, a meithrin ymdeimlad o gysylltedd cymunedol.

Lawrlwythwch yr adnoddau isod:

Rhagor o wybodaeth am yr effaith rydyn ni'n ei chael ar ysgolion yng Nghymru